Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 3 Hydref 2016
Amser: 14.01 -
16.05
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3735
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AC Neil Hamilton AC Mike Hedges AC Rhianon Passmore AC Lee Waters AC Paul Davies AC (yn lle Mohammad Asghar (Oscar) AC) |
Tystion: |
Syr Derek Jones, Llywodraeth Cymru Gawain Evans, Llywodraeth Cymru Peter Kennedy, Llywodraeth Cymru |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru Mark Jones |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Buckle (Clerc) Meriel Singleton (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 1MB) Gweld fel HTML (259KB)
1.1 Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r Pwyllgor i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Mohammad Asghar. Dirprwyodd Paul Davies ar ei rhan.
1.3 Hefyd, croesawodd y Cadeirydd ddirprwyaeth o Senedd Botswana a fu’n arsylwi rhan o'r cyfarfod o'r oriel gyhoeddus.
2.1 Cytunwyd ar y cofnodion.
3.1 Bu'r Pwyllgor yn holi Syr Derek Jones, yr Ysgrifennydd Parhaol, Gawain Evans, y Cyfarwyddwr Cyllid a Peter Kennedy, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol Llywodraeth Cymru ynghylch Cyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru 2015-16.
3.2 Cytunodd Syr Derek Jones i anfon rhagor o wybodaeth am y materion a ganlyn:
· I ba raddau y mae awdurdodau lleol yn recriwtio pobl allanol sydd â’r arbenigedd priodol ym maes caffael
· Ffigurau’n ymwneud â phrosesau caffael Llywodraeth Cymru a sector cyhoeddus Cymru
· Eglurhad o’r amrywiadau yn y tanwariant o £153 miliwn yn y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, fel y’i nodir yn nhabl y Crynodeb o'r Alldro, ac effaith y tanwariant yng Nghwmpas Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol pe na bai dau o’r cyrff iechyd wedi gorwario (ynghyd ag effaith penderfyniad Llywodraeth Cymru i roi arian ychwanegol i ddau fwrdd iechyd a oedd wedi gorwario ac effaith hyn ar y gofyniad arian parod)
· Cyfeirio’r Pwyllgor at lincs lle caiff rhagor o wybodaeth (gohebiaeth flaenorol) am Gronfa Risg Cymru
· Hysbysu'r Pwyllgor am y camau disgyblu posibl yn ymwneud â thalu’r swm ofer o £1. 25m
Sut y caiff rhwymedigaethau cyfyngedig a heb eu meintoli eu cyfrifo o ran eglurder
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Trafododd yr aelodau’r dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod y broses o graffu ar gyfrifon 2015-16.
Sylwadau i gloi
Gan nad oedd y tyst a oedd i fod yn bresennol yn y cyfarfod ar 10 Hydref ar gael, cytunodd y Pwyllgor i ohirio busnes nes y gall tyst fod yn bresennol ar 14 Tachwedd.
Bydd y Cadeirydd i ffwrdd ar fusnes y Cynulliad ar 17 Hydref a galwodd ar yr aelodau i enwebu cadeirydd dros dro ar gyfer y cyfarfod ar 17 Hydref, a hynny o dan Reolau Sefydlog 17.22 a 18.6. Enwebwyd Rhun ap Iorwerth gan Rhiannon Passmore ac fe'i hetholwyd.